Grant Amddifadedd Disgyblion
Datganiad Grant Amddifadedd Ysgol Gymunedol Peniel
Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, eu nodweddion a’u hanghenion
2. cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
3. monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2020-21 derbynniodd Ysgol Gymunedol Peniel ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £2,300.
Yn Ysgol Gymunedol Peniel mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a'i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
-
ddarparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy e.e. Tric a chlic, Power of 2, RWI/ Letters and Sounds
-
Defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyraethau a monitro effaith.
Nid yw’n briodol i’r ysgol gyhoeddi ei chynllun manwl oherwydd y perygl y gellid adnabod unigolion.