Cwricwlwm newydd i Gymru
Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid
Cyflwyniad i'r Cwricwlwm Newydd

Cwricwlwm i Gymru: Canllaw hygyrch a chryno iawn i rieni.
Cwricwlwm i Gymru: Canllaw hygyrch a chryno i bobl ifanc
Y 4 Diben
Y 4 diben yw'r sail i bopeth y byddwch yn ei ddysgu
Dewch i gwrdd a chymeriadau 4 diben Peniel

Dysgwyr Uchelgeisiol a Galluog
|

Dysgwyr Mentrus a Chreadigol
|

Dysgwyr Egwyddorol a Gwybodus
|

Dysgwyr Iach a Hyderus
|
Y meysydd dysgu a phrofiad
Rhaid i'r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.
- Y Celfyddydau Mynegiannol.
- Iechyd a Lles.
- Y Dyniaethau.
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
- Mathemateg a Rhifedd.
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Bydd sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymwysedd digidol yn cael eu haddysgu ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.
Elfennau gorfodol cwricwlwm
Yn ogystal a’r uchod, bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o gwricwlwm.
- Crefydd, gwerthoedd a moeseg.
- Addysg cydberthynas a rhywioldeb.
- Cymraeg.
- Saesneg.